We use some essential cookies to make our website work. We’d like to set additional cookies so we can remember your preferences and understand how you use our site.
You can manage your preferences and cookie settings at any time by clicking on “Customise Cookies” below. For more information on how we use cookies, please see our Cookies notice.
Your cookie preferences have been saved. You can update your cookie settings at any time on the cookies page.
Your cookie preferences have been saved. You can update your cookie settings at any time on the cookies page.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Mae troseddau ffiniau yn peri niwed mawr iawn i’r DU, boed hynny’n smyglo pobl, cyffuriau neu arfau tanio, neu droseddau’n ymwneud â therfysgaeth.
Mae miloedd o awyrennau ysgafn, hofrenyddion ac awyrennau ‘microlight’ yn y DU, sy’n hedfan i mewn ac allan o feysydd awyr bach ledled y wlad bob dydd.
Gan na ellir monitro pob awyren a llain lanio 24 awr y dydd, gall y diwydiant hedfan, cymunedau sy’n byw ac yn gweithio yn agos at feysydd awyr a gwylwyr awyrennau brwd chwarae rhan hollbwysig mewn atal troseddau a chynnal cymuned ddiogel.
Menter a sefydlwyd i gael pobl sy’n gweithio yn y diwydiant hedfan neu sy’n byw yn agos at faes awyr i ymuno yn y frwydr yn erbyn troseddau trefnedig a therfysgaeth yw Prosiect Pegasus.
Os ydych yn amau gweithgarwch terfysgol posibl yna gallwch riportio gweithgarwch terfysgol posibl ar-lein, ar y Llinell Gymorth Gwrthderfysgaeth 0800 789 321, neu os ydych yn amau bod perygl ar y pryd, symudwch i ffwrdd a ffoniwch 999 nawr.
Y rhif ffôn penodol ar gyfer riportio gweithgarwch amheus a thaclo troseddau ffiniau hedfan mewn meysydd glanio a meysydd awyr o amgylch y DU yw 0300 123 7000.
Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu anfonwch neges destun atom ar 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw gyda’r gwasanaeth SMS brys.
Neu ffoniwch Crimestoppers ar 0800 555 111. Dyfynnwch ‘Project Pegasus’.
Cofiwch: peidiwch â rhoi eich hun mewn sefyllfa beryglus na chymryd unrhyw risgiau; peidiwch â mynd at unrhyw un rydych chi’n ei amau. Rhowch wybod i ni cyn gynted ag y gallwch.
Gwybodaeth a fydd yn ddefnyddiol i ni (ond peidiwch â rhoi eich hun mewn sefyllfa beryglus er mwyn cael y wybodaeth):