We use some essential cookies to make our website work. We’d like to set additional cookies so we can remember your preferences and understand how you use our site.
You can manage your preferences and cookie settings at any time by clicking on “Customise Cookies” below. For more information on how we use cookies, please see our Cookies notice.
Your cookie preferences have been saved. You can update your cookie settings at any time on the cookies page.
Your cookie preferences have been saved. You can update your cookie settings at any time on the cookies page.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Mae Rhwydwaith Deallusrwydd Asiantaethau’r Llywodraeth (GAIN) yn gydweithrediad rhwng partneriaid gorfodi'r gyfraith ac ystod eang o wahanol asiantaethau a phartneriaid i’r llywodraeth sydd â’r prif amcan o weithio mewn partneriaeth i fynd i'r afael â'r bygythiad a'r niwed a achosir i gymunedau gan y rhai sy'n ymwneud â throseddau difrifol a chyfundrefnol.
Drwy gydweithio rydym yn defnyddio’n dylanwad ar y cyd i darfu ar droseddu drwy rannu deallusrwydd, cyfnewid gwybodaeth a chydweithredu gan ddefnyddio'r holl bwerau a’r holl drosolion sydd ar gael i asiantaethau gorfodi'r gyfraith a rheoleiddwyr mewn dull sy’n defnyddio un system gyfan.
Wrth galon y gweithgaredd hwn mae yna gydlynydd GAIN Rhanbarthol. Mae pob rhanbarth (ledled Cymru a Lloegr) yn cael ei gynrychioli gan gydlynydd sy'n gweithio'n agos gyda'r Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol (ROCUs), yr heddluoedd cyfansoddol ac asiantaethau partner i adnabod a chydlynu cyfleoedd ar gyfer gwaith aml-asiantaeth a gwaith tarfu.
Mae’r gweithgareddau hyn yn cael eu cefnogi gan ganolfan Deallusrwydd Cenedlaethol GAIN sy'n cynnig porth hanfodol ar gyfer rhannu deallusrwydd rhwng yr holl aelodau sy'n cynnwys, ymhlith llawer o rai eraill, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Cyllid a Thollau EF, Llu’r Ffiniau, Adran Fewnfudo’r Swyddfa Gartref, Safonau Masnach Cenedlaethol, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF ac Asiantaeth yr Amgylchedd.
Darperir y cyfeiriad strategol a'r llywodraethiant ar gyfer y rhwydwaith gan fwrdd Gweithredol GAIN, dan gadeiryddiaeth arweinydd ROCUs Cyngor Cenedlaethol yr Heddlu (NPCC), y dirprwy arweinydd ar gyfer Portffolio Troseddau Difrifol a Chyfundrefnol yr NPCC, sef Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Swydd Bedford, Rodenhurst, ac uwch gynrychiolwyr o nifer o'r asiantaethau partner sy'n cyfarfod yn aml i adolygu’n cynnydd a gosod ein blaenoriaethau.
Mae GAIN yn arf hanfodol yn y frwydr yn erbyn troseddau difrifol a chyfundrefnol: drwy gydweithio gallwn ddeall y bygythiadau yn well ac mae gennym fwy o allu i darfu ar y rhai sy'n ymwneud â'r math hwn o droseddu.
Mae GAIN wedi ymrwymo i atal a thorri crib y rhai sydd mewn perygl o gymryd rhan mewn troseddau difrifol a chyfundrefnol drwy ddarparu addysg a chymorth; amddiffyn pobl a chymunedau rhag niwed drwy darfu’n ddi-baid ac amddiffyn y rhai sy'n agored i niwed drwy adeiladu'r lefelau uchaf o amddiffyn a gwytnwch. Byddwn yn defnyddio’n holl ymdrechion ar y cyd i sicrhau y bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn cael eu dwyn o flaen eu gwell a byddwn yn atafaelu unrhyw asedau a sicrhawyd drwy droseddu ar draws ein priod ranbarthau.