We use some essential cookies to make our website work. We’d like to set additional cookies so we can remember your preferences and understand how you use our site.
You can manage your preferences and cookie settings at any time by clicking on “Customise Cookies” below. For more information on how we use cookies, please see our Cookies notice.
Your cookie preferences have been saved. You can update your cookie settings at any time on the cookies page.
Your cookie preferences have been saved. You can update your cookie settings at any time on the cookies page.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Uned Gweithrediadau Arbennig Dwyrain Canolbarth Lloegr (EMSOU) yw'r cydweithrediad rhanbarthol mwyaf yn y wlad. Mae'n cynnwys tîm profiadol a medrus sy'n gweithio'n arloesol gyda'i gilydd ar ran y pum heddlu yn Nwyrain Canolbarth Lloegr i fynd i'r afael â'r troseddwyr mwyaf treisgar, difrifol a threfnedig ar lawr gwlad ac ar-lein.
Mae’n cydweithrediad yn cynnwys nifer o alluoedd ac unedau sy'n ymroi i fynd i'r afael â ladd a thrais difrifol, troseddau cyfundrefnol, a therfysgaeth ac eithafiaeth. Rydym hefyd yn darparu gwasanaethau fforensig y rhanbarth ac yn cynnal adolygiadau achos ac adolygiadau thematig mewn ymgais i ddod â chyfiawnder mewn troseddau sydd heb eu datrys, adnabod arferion da a gwella perfformiad.
Ein Huned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol (ROCU) oedd prif gydweithrediad y wlad a chafodd ei sefydlu yn gynnar yn y 2000au i ddarparu tactegau cudd yn erbyn troseddwyr difrifol a chyfundrefnol ar ran heddluoedd Swydd Derby, Swydd Gaerlŷr, Swydd Lincoln, Swydd Nottingham a Swydd Northampton. Dros y blynyddoedd, mae’n galluoedd wedi tyfu i ymgorffori deallusrwydd a swyddogaethau ymchwil, gan baratoi'r ffordd ar gyfer cydweithredu tebyg ledled Cymru a Lloegr.
Ynghyd â'n syndicadau deallusrwydd a gweithrediadau, mae gennym bellach dimau yn canolbwyntio ar droseddau ariannol ac adfer asedau, deallusrwydd carchardai, troseddau seiber, twyll, a gwasanaethau digidol a thechnegol. Mae'r rhain i gyd yn gweithio ar drywydd grwpiau troseddu cyfundrefnol sy'n ymwneud â chyflenwi cyffuriau a drylliau, troseddau mewnfudo cyfundrefnol, masnachu pobl ac ecsbloetio (megis llinellau cyffuriau ac ecsploetio plant yn rhywiol), gwyngalchu arian, llygredd carchardai a throseddau sydd wedi’u galluogi gan seiber ac sy’n dibynnu ar seiber.
Mae EMSOU hefyd yn gartref i Uned Deallusrwydd Gwrthderfysgaeth Dwyrain Canolbarth Lloegr, sy’n cael ei hadnabod fel CTP EM. Mae'r tîm wedi ymroi i fynd i'r afael a monitro bygythiad terfysgaeth yn Nwyrain Canolbarth Lloegr, ac mae'n rhan o'r rhwydwaith plismona gwrthderfysgaeth cenedlaethol.
Mae gan yr uned swyddogion a staff sy'n gweithio o fewn pob un o bedwar maes strategaeth CONTEST y Llywodraeth, sy'n gweithio'n agos gyda phartneriaid mewn diogelwch cenedlaethol, asiantaethau a sefydliadau eraill gorfodi'r gyfraith i ymlid y rhai sydd â'r bwriad o achosi niwed, yn ogystal â diogelu a pharatoi ein cymunedau a'n busnesau yn erbyn y bygythiadau presennol.
Rydym hefyd yn rhan o ymdrech aml-asiantaeth i atal y rhai sy’n fwyaf agored i gael eu hecsbloetio rhag cael eu radicaleiddio, gan annog pobl i weithredu'n gynnar i ddiogelu eu hanwyliaid.
Mae’n Huned Troseddau Mawr yn gweithio fel tîm rhanbarthol i ymchwilio i farwolaethau amheus, achosion cymhleth a throseddau difrifol eraill sy'n digwydd yn Nwyrain Canolbarth Lloegr. Mae'r uned yn cynnwys cnewyllyn o Swyddogion Cyswlltol Teulu (FLOs) sydd wedi’u hyfforddi ac sy'n rhoi cymorth proffesiynol i berthnasau dioddefwyr y troseddau mwyaf treisgar, yn ogystal â darparu pwynt cydlynu'r rhanbarth os bydd digwyddiad mawr.
Mae'r tîm rhanbarthol hwn yn darparu gwasanaethau fforensig i'n heddluoedd yn Nwyrain Canolbarth Lloegr. Gan weithio ar y cyd â Cellmark, mae’n gwyddonwyr a staff heddlu sydd wedi'u hyfforddi'n fanwl yn archwilio olion bysedd, DNA, darnau esgyrn, samplau gwaed a mwy mewn ymgais i adnabod pobl a datrys troseddau, gan ddarparu tystiolaeth amhrisiadwy ac adroddiadau arbenigol i sicrhau euogfarnau a dedfrydau carchar.
Cafodd y tîm hwn ei sefydlu yn 2010, ac mae'n cynnal adolygiadau o ymchwiliadau mawr, digwyddiadau critigol ac ymchwiliadau neu themâu eraill a nodir, megis troseddau rhywiol difrifol a phobl sydd ar goll ac sy’n wynebu risg uchel, gyda'r bwriad o adnabod arferion da a meysydd i’w datblygu. Drwy eu profiad eu hunain – a thrwy fanteisio ar arbenigedd o fannau eraill o fewn y rhanbarth ac yn allanol – mae'r tîm hefyd yn helpu Uwch Swyddogion Ymchwilio (SIOs) yn ystod ymchwiliadau byw, gan ddarparu cymorth mewn amser real i gau ymchwiliad.
Gallwch gysylltu â thîm cyfathrebu EMSOU drwy’r ebost. I gael rhagor o wybodaeth, gallwch edrych ar ein gwefan a’n dilyn ni ar Twitter.