We use some essential cookies to make our website work. We’d like to set additional cookies so we can remember your preferences and understand how you use our site.
You can manage your preferences and cookie settings at any time by clicking on “Customise Cookies” below. For more information on how we use cookies, please see our Cookies notice.
Your cookie preferences have been saved. You can update your cookie settings at any time on the cookies page.
Your cookie preferences have been saved. You can update your cookie settings at any time on the cookies page.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn gymwys i Rwydwaith yr Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol.
Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan yr Hafan Ar-lein Sengl (SOH).
Rydyn ni am i bawb allu defnyddio'r wefan hon. Efallai y cewch chi well profiad os newidiwch chi’r gosodiadau ar eich cyfrifiadur i ateb eich anghenion. Mae'r wefan wedi'i hadeiladu fel y dylech chi allu:
Rydyn ni hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio.
Rydyn ni’n gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan yn gwbl hygyrch.
Os ydych chi’n methu cyrchu rhywbeth sydd ei angen arnoch ar y wefan hon, soniwch wrthon ni amdano a byddwn yn cael yr hyn sydd ei angen arnoch i chi mewn modd arall:
Drwy ebost: [email protected]
I’n helpu i ddeall y broblem cyn gynted ag y gallwn, rhowch y canlynol inni:
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych chi’n fodlon ar y ffordd rydyn ni’n ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon ac nad ydych yn fodlon ar y ffordd rydyn ni’n ymateb i'ch cwyn, gallwch gysylltu â Chomisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd') yng Ngogledd Iwerddon.
Mae'r Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â Safon AA y Canllawiau ar Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1, oherwydd y diffyg cydymffurfio a’r esemptiadau isod.
Nid yw'r cynnwys isod yn hygyrch a hynny am y rhesymau canlynol:
Nid yw diben y dolenni yn y tudaleniad ar y tudalen Chwilio yn glir drwy ddarllen y testun cyswllt yn unig neu drwy ddarllen y testun cyswllt gyda chyd-destun cyswllt sy'n gysylltiedig drwy’r rhaglen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf 2.4.4 Diben y ddolen (yn ei chyd-destun) (Lefel A).
Ein nod yw datrys y materion hyn erbyn diwedd mis Rhagfyr 2023.
Gydag ychydig eithriadau, bydd yr holl ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd. Bydd yr holl ddogfennau newydd nad ydynt yn hygyrch yn cael eu nodi'n glir, a byddwn yn darparu fersiwn hygyrch lle bynnag y bo modd.
Mae'r wefan hon wedi'i phrofi drwy ddefnyddio:
Rydyn ni’n monitro ac yn profi hygyrchedd ein gwefan yn barhaus ac wedi gwneud trwsio a gwella hygyrchedd y wefan yn rhan o'n gwaith beunyddiol.
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 15 Tachwedd 2023.