We use some essential cookies to make our website work. We’d like to set additional cookies so we can remember your preferences and understand how you use our site.
You can manage your preferences and cookie settings at any time by clicking on “Customise Cookies” below. For more information on how we use cookies, please see our Cookies notice.
Your cookie preferences have been saved. You can update your cookie settings at any time on the cookies page.
Your cookie preferences have been saved. You can update your cookie settings at any time on the cookies page.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Mae'r hysbysiad preifatrwydd yma yn dweud wrthoch chi sut mae'r Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol (ROCUs) o dan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) yn sicrhau, yn cadw, yn defnyddio ac yn datgelu data personol. Mae'n disgrifio'r camau rydyn ni’n eu cymryd i sicrhau bod data'n cael ei ddiogelu, a'ch hawliau chi i wybod, gweld a herio sut mae’ch data’n cael ei ddefnyddio.
Nid yw'n cynnwys gwybodaeth am sut mae'ch heddlu lleol yn defnyddio data personol, ond gallwch ddod o hyd i hysbysiadau preifatrwydd tebyg ar eu gwefannau nhw, gyda chanllawiau ar sut i arfer eich hawliau trwyddyn nhw.
Mae’r Ddeddf Diogelu Data yn nodi wyth egwyddor ar gyfer sicrhau, cofnodi, defnyddio a diogelu gwybodaeth bersonol yn deg ac yn gyfreithlon. Mae'r ddeddf yn gweithio mewn dwy ffordd;
Nodir isod yr egwyddorion rydyn ni’n eu defnyddio wrth drin gwybodaeth bersonol.
Mae gwybodaeth a ddarperir i'n gwefan trwy ffurflenni cyswllt yn cael ei thrin yn gyfrinachol ac ni fyddwn yn datgelu unrhyw wybodaeth i drydydd parti, oni bai bod gofyn inni wneud hynny yn unol â Deddf Diogelu Data 2018.
Mae cwcis yn cael eu defnyddio ar y wefan yma i wella profiad y defnyddiwr ac ar gyfer swyddogaethau hanfodol: dydyn nhw ddim yn cael eu defnyddio at ddibenion adnabod.
Rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni’n defnyddio cwcis.
Pan fydd yr NPCC yn penderfynu pam a sut mae data personol, yn cael ei ddefnyddio, mae’n 'rheolwr' ar y data hwnnw ac mae'n ofynnol iddo sicrhau ei fod yn trin y data yn unol â'r gyfraith. Mae'r NPCC yn cymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifrif ac yn cymryd gofal mawr i sicrhau bod eich data personol yn cael ei brosesu'n briodol er mwyn cynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn yr heddlu.
Gallwch gysylltu â’r NPCC yma:
50 Broadway
London
SW1H 0BL
United Kingdom
Ebost: [email protected]
Gallwch hefyd gysylltu â Swyddog Diogelu Data yr NPCC yn uniongyrchol: [email protected].
O ran ceisiadau am wybodaeth gan heddluoedd lleol, gallwch ddod o hyd i'w manylion cysylltu nhw at ddibenion Rhyddid Gwybodaeth drwy ddilyn dolenni ar wefan heddluoedd y Deyrnas Unedig.
Os ydych chi wedi archwilio gwefan yr NPCC ac os hoffech gyflwyno Cais Rhyddid Gwybodaeth am wybodaeth ynglŷn â busnes yr NPCC, ACRO neu’r Unedau Heddlu Cenedlaethol, gallwch gysylltu â Swyddog Rhyddid Gwybodaeth yr NPCC yma: [email protected].
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yw'r awdurdod annibynnol sy'n gyfrifol yn y Deyrnas Unedig am sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth diogelu data. Mae rhagor o wybodaeth am yr ICO a'ch hawliau chi ar gael ar wefan yr ICO.
Mae gennych chi hawl i ofyn i'r ICO ymchwilio i bryder sydd gennych ynglŷn ag unrhyw sefydliad sydd yn trin, neu a allai fod yn trin, eich data personol. Er enghraifft, efallai y byddwch yn pryderu bod eich data wedi'i ddefnyddio'n anghyfreithlon, ei fod wedi'i ddal yn ôl oddi wrthoch chi, neu nad yw rheolwr sydd heb sail gyfreithlon i ddefnyddio'ch data wedi ei ddileu pan ofynnwyd iddo wneud hynny. Mae gan yr ICO bwerau i archwilio'r hyn sydd gennym a phenderfynu a ydyn ni wedi gweithredu'n gyfreithlon ai peidio. Mae ganddyn nhw bwerau i orchymyn camau unioni ac i orfodi data personol i gael ei drin yn gyfreithlon.
Os ydych chi’n anfodlon ag ymateb gan yr NPCC, rydyn ni’n gofyn yn barchus ichi gyflwyno’ch cwyn i ni yn gyntaf a byddwn ni’n ceisio datrys y broblem neu esbonio pam rydyn ni’n credu bod ein gweithredoedd yn gyfreithlon. Fydd gwneud hyn ddim yn effeithio ar eich hawliau a gallwch ddewis siarad â'r ICO unrhyw bryd.
Os na allwn ni ddatrys problem er boddhad ichi, byddwn bob amser yn eich atgoffa y gallwch fynd â'ch pryderon at yr ICO i gael penderfyniad annibynnol.
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ebost: [email protected]
Ffôn: 0303 123 1113
Rydyn ni’n adolygu’n hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd. Y tro diwethaf i’r hysbysiad preifatrwydd hwn gael ei ddiweddaru oedd mis Tachwedd 2023.