We use some essential cookies to make our website work. We’d like to set additional cookies so we can remember your preferences and understand how you use our site.
You can manage your preferences and cookie settings at any time by clicking on “Customise Cookies” below. For more information on how we use cookies, please see our Cookies notice.
Your cookie preferences have been saved. You can update your cookie settings at any time on the cookies page.
Your cookie preferences have been saved. You can update your cookie settings at any time on the cookies page.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Cafodd Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol Gogledd-ddwyrain Lloegr (NEROCU) ei sefydlu ym mis Hydref 2013. Mae'n gydweithrediad rhwng tri heddlu, sef Northumbria, Cleveland a Durham.
Mae NEROCU yn darparu mwy o ymateb i fynd i'r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol sy'n pontio ffiniau'r heddluoedd yn y rhanbarth. Rydym yn darparu capasiti arbenigol ychwanegol drwy weithio a chydweithio mewn partneriaeth effeithiol.
Mae'r uned yn cynnwys sawl tîm arbenigol iawn o swyddogion a staff o'r tri Heddlu. Maen nhw'n gweithio gyda phartneriaid eraill i ymdrin â phob un o’r pedwar maes yn strategaeth CONTEST y Llywodraeth – Diogelu, Paratoi, Atal, ac Ymlid.
Mae hyn yn darparu capasiti a gwytnwch ychwanegol ar gyfer y rhanbarth, gan ganiatáu i bob math o dactegau plismona cudd gael eu defnyddio ar draws y ffiniau ac yn erbyn troseddwyr cyfundrefnol sydd â chymhellion cryf, yn ogystal â darparu cymorth arbenigol i'r tri heddlu.
Mae cenhadaeth yr uned yn syml – amddiffyn cymunedau Cleveland, Durham a Northumbria rhag troseddau difrifol a chyfundrefnol. Mae'n rhoi pwyslais ar atal, erlyn a t harfu ar droseddau difrifol a chyfundrefnol gan sicrhau dull cenedlaethol cydgysylltiedig ar draws y Llywodraeth, asiantaethau gorfodi'r gyfraith, diogelwch ac asiantaethau cudd-wybodaeth.
Gallwch gysylltu â swyddfa'r wasg yn NEROCU drwy’r ebost.