We use some essential cookies to make our website work. We’d like to set additional cookies so we can remember your preferences and understand how you use our site.
You can manage your preferences and cookie settings at any time by clicking on “Customise Cookies” below. For more information on how we use cookies, please see our Cookies notice.
Your cookie preferences have been saved. You can update your cookie settings at any time on the cookies page.
Your cookie preferences have been saved. You can update your cookie settings at any time on the cookies page.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Mae'n drosedd bod ag arf tanio, dryll neu arf aer peryglus a bwledi a chetris penodol yn eich meddiant heb dystysgrif neu fod ag arf gwaharddedig yn eich meddiant.
Mae ar unrhyw un sy'n awyddus i feddiannu, prynu neu gaffael arf tanio neu ddryll angen tystysgrif arf tanio a roddwyd gan yr heddlu.
Mae'n anghyfreithlon i unrhyw un dan 18 oed brynu arf tanio dynwared ac i unrhyw un werthu arf tanio dynwared i rywun dan 18 oed.
Mae rhai arfau tanio wedi'u gwahardd yn llwyr. Fyddwch chi ddim yn gallu cael tystysgrif ar eu cyfer ac mae'n drosedd eu meddiannu, eu prynu neu eu caffael heb awdurdod yr Ysgrifennydd Cartref.
Bydd unrhyw un sy'n cael ei ddal yn cario cyllell neu ddryll yn anghyfreithlon, hyd yn oed un dynwared, yn cael eu harestio a'u herlyn. Nid yw'n esgus dweud bod y dryll wedi’i fwriadu i’ch amddiffyn chi’ch hun neu ei fod yn cael ei gario ar ran rhywun arall.
Chwaraewch eich rhan i leihau troseddau cyllyll a drylliau drwy riportio pobl rydych chi'n gwybod neu’n amau y gallen nhw fod yn cario arf yn anghyfreithlon.
Os na allwch siarad â'r heddlu, cysylltwch â'r elusen annibynnol Crimestoppers trwy ffonio 0800 555 111 neu drwy ddefnyddio ffurflen riportio’r elusen ar-lein.