We use some essential cookies to make our website work. We’d like to set additional cookies so we can remember your preferences and understand how you use our site.
You can manage your preferences and cookie settings at any time by clicking on “Customise Cookies” below. For more information on how we use cookies, please see our Cookies notice.
Your cookie preferences have been saved. You can update your cookie settings at any time on the cookies page.
Your cookie preferences have been saved. You can update your cookie settings at any time on the cookies page.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 yw'r brif ddeddfwriaeth ynglŷn â chyffuriau. Mae'n gosod cyffuriau mewn gwahanol gategorïau, o’r enw Dosbarth A, B ac C. Mae cyffuriau sy'n cael eu rheoleiddio fel hyn yn cael eu galw'n sylweddau 'rheoledig’. Cyffuriau Dosbarth A yw'r rhai sy'n cael eu hystyried fel y rhai mwyaf niweidiol.
O dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau mae'n drosedd:
Mae ROCUs yn gweithio i fynd i'r afael â throseddau sy'n gysylltiedig â chyffuriau drwy ddefnyddio tactegau arbenigol i dargedu'r troseddwyr lefel uchel a lefel ganol sy'n mewnforio sylweddau anghyfreithlon i'r Deyrnas Unedig gan obeithio eu gwerthu i grwpiau troseddol eraill.
Os oes gennych wybodaeth am droseddau sy'n gysylltiedig â chyffuriau, dywedwch wrth eich heddlu lleol.
Gallwch helpu drwy alw Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 os oes gennych unrhyw wybodaeth am werthwyr cyffuriau.
Mae Crimestoppers yn casglu deallusrwydd ac yn pasio hwnnw i'r heddlu i helpu i arestio a chyhuddo troseddwyr. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Crimestoppers.
Mae llinellau cyffuriau yn gweld gwerthwyr cyffuriau trefol, yn aml o ddinasoedd mawr fel Llundain, yn symud i’r maestrefi a threfi marchnad a’r glannau, gan ddefnyddio rhif ffôn symudol neu linell fargen bwrpasol i redeg eu gweithrediadau troseddol.
Oherwydd natur llinellau cyffuriau, sy'n croesi ffiniau'r heddluoedd, mae ROCUs yn allweddol i gydlynu'r ymateb i fynd i'r afael â nhw.
Mae pob ROCU yn darparu cyswllt hanfodol rhwng heddluoedd a chyrff cyhoeddus eraill, elusennau a rhanddeiliaid allanol i sicrhau bod y rhai sy'n ceisio manteisio ar bobl ifanc a bregus yn cael eu dal, tra bo’r rhai sydd wedi’u targedu yn cael y cymorth angenrheidiol.