Yn anffodus mae caethwasiaeth fodern a masnachu pobl yn bodoli mewn sawl ffurf ar draws y wlad ac yn gallu effeithio ar lawer o wahanol fathau o bobl waeth beth fo'u cefndir, eu rhyw, eu hoed, neu eu hethnigrwydd.
Mae mathau o gaethwasiaeth yn cynnwys:
- Masnachu plant – pobl ifanc (o dan 18 oed) sy'n cael eu symud naill ai'n rhyngwladol neu'n ddomestig fel bod modd eu hecsbloetio.
- Llafur gorfodol – bondio dyledion – mae’r dioddefwyr yn cael eu gorfodi i weithio i dalu dyledion na fyddan nhw byth yn gallu eu had-dalu a dweud y gwir. Mae cyflogau isel a dyledion uwch yn golygu nid yn unig na allan nhw byth obeithio talu'r benthyciad, ond y gall y ddyled gael ei throsglwyddo i'w plant.
- Llafur gorfodol – mae’r dioddefwyr yn cael eu gorfodi i weithio yn erbyn eu hewyllys, yn aml yn gweithio oriau hir iawn am ychydig neu ddim cyflog o dan amodau enbyd ac o dan fygythiadau geiriol neu gorfforol o drais iddyn nhw neu eu teuluoedd. Gall ddigwydd mewn sawl sector o'r economi, o safleoedd golchi ceir a bariau ewinedd, i darmacio, lletygarwch a phecynnu bwyd.
- Ecsploetio rhywiol – mae’r dioddefwyr yn cael eu gorfodi i gyflawni gweithredoedd rhywiol anghydsyniol neu gamdriniol yn erbyn eu hewyllys, megis puteindra, gwaith hebrwng a phornograffi. Er mai menywod a phlant yw’r rhan fwyaf o’r dioddefwyr, gall dynion hefyd gael eu heffeithio.
- Ecsploetio troseddol – mae’r dioddefwyr, sydd yn aml yn cael eu rheoli a'u dylanwadu, yn cael eu gorfodi i mewn i droseddau fel tyfu canabis neu bigo pocedi yn erbyn eu hewyllys. Efallai hefyd y bydd yr ecsbloetwyr yn cymryd eu budd-daliadau.
- Masnachu pobl – gwasanaeth domestig – Mae’r dioddefwyr yn cael eu gorfodi i wneud gwaith tŷ a thasgau domestig mewn cartrefi preifat heb lawer o gyflog, cyfyngiadau ar eu symudiadau, amser rhydd cyfyngedig iawn neu ddim amser rhydd a fawr ddim preifatrwydd, gan gysgu’n aml lle maen nhw'n gweithio. Fe allen nhw gael eu cyflwyno fel aelodau o’r teulu estynedig yr ecsbloetwyr er mwyn chwalu amheuon cymdogion a'r awdurdodau.
Mae’r arwyddion y gallai rhywun fod yn cael eu cadw fel caethwas yn cynnwys:
- Pryd a gwedd – ydy’r person yn dangos arwyddion o gam-drin corfforol neu seicolegol, yn edrych fel pe bai’n dioddef diffyg maeth neu'n flêr, yn edrych yn swil neu wedi’i esgeuluso? Oes ganddyn nhw anafiadau heb eu trin?
- Ynysu – Ai anaml y mae'r person yn cael teithio ar ei ben ei hun, neu a ydy hi’n ymddangos eu bod nhw o dan reolaeth neu ddylanwad pobl eraill? Ai anaml iawn y maen nhw’n rhyngweithio neu ydyn nhw'n ymddangos yn anghyfarwydd â'u cymdogaeth neu lle maen nhw'n gweithio?
Amodau byw gwael – ydyn nhw'n byw mewn llety budr, cyfyng, neu orlawn, neu'n byw a gweithio yn yr un cyfeiriad?
- Rhyddid cyfyngedig i symud – Oes gan y person ychydig yn unig o eiddo personol a wastad yn gwisgo'r un dillad o ddydd i ddydd? Efallai nad yw'r dillad yn addas ar gyfer eu gwaith. Efallai nad oes ganddyn nhw fawr o gyfle i symud yn rhydd.
- Amserau teithio anarferol – ydyn nhw'n cael eu gollwng neu eu casglu ar gyfer y gwaith yn gyson, naill ai'n gynnar iawn neu'n hwyr yn y nos?
- Anfodlon gofyn am help – ydyn nhw'n osgoi cyswllt llygaid, yn ymddangos yn ofnus neu'n betrusgar i siarad â dieithriaid? Gall fod sawl rheswm am hyn, megis peidio â gwybod pwy i ymddiried ynddo neu ble i gael cymorth, ofn alltudio, ofn trais iddyn nhw neu eu teulu.
Os ydych chi'n amau bod caethwasiaeth fodern yn digwydd o'ch cwmpas, p'un ai lle rydych chi'n byw, yn gweithio neu’n cymdeithasu, rhowch wybod i'ch heddlu lleol drwy ffonio 101, neu cysylltwch â Crimestoppers yn ddienw, ar 0800 555 111.
Gallwch hefyd gysylltu â'r Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern ar 08000 121 700 neu ewch i wefan Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern i gael rhagor o wybodaeth.