We use some essential cookies to make our website work. We’d like to set additional cookies so we can remember your preferences and understand how you use our site.
You can manage your preferences and cookie settings at any time by clicking on “Customise Cookies” below. For more information on how we use cookies, please see our Cookies notice.
Your cookie preferences have been saved. You can update your cookie settings at any time on the cookies page.
Your cookie preferences have been saved. You can update your cookie settings at any time on the cookies page.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Gall troseddau mewnfudo cyfundrefnol fod yn risg wirioneddol ac arwyddocaol i bobl sy'n dod i'r Deyrnas Unedig yn anghyfreithlon i chwilio am fywyd gwell.
Mae'r ffordd maen nhw'n cael eu cludo ar draws ffiniau ynddi ei hun yn beryglus ac yn peryglu eu bywydau, fel y gwelwyd mewn digwyddiadau arwyddocaol ledled y Deyrnas Unedig.
Mae’r ROCUs wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â'n cydweithwyr Gorfodi Mewnfudo i fynd i'r afael â mudo anghyfreithlon a tharfu ar y grwpiau troseddu cyfundrefnol sy'n ei hwyluso.
Mae grwpiau troseddu cyfundrefnol sy'n ymwneud â throseddau mewnfudo yn ceisio manteisio ar bobl fregus, gan godi symiau mawr o arian am eu gwasanaethau anghyfreithlon i'w cludo i'r Deyrnas Unedig. Mae’r refeniw hwn yn aml yn cael ei ddefnyddio i ariannu mathau eraill o droseddu ac mae llawer yn defnyddio trais i gynnal rheolaeth ar ymfudwyr neu diriogaeth.
Mae troseddwyr sy'n ymwneud â throseddau mewnfudo yn gweithredu mewn gwahanol ffyrdd; gall rhai weithredu ar eu pen eu hunain neu fod yn rhan o grŵp bach, tra bo eraill yn ffurfio rhwydweithiau byd-eang eang gydag aelodau mewn sawl gwlad i hwyluso mudo anghyfreithlon.
Mae dod i'r Deyrnas Unedig yn anghyfreithlon yn atal gwasanaethau gorfodi'r gyfraith rhag cadw cofnod troseddol neu wneud gwiriadau diogelwch, sy'n golygu nad ydyn ni’n gwybod pwy ydyn nhw na pha risg maen nhw'n ei achosi i'r Deyrnas Unedig.
Mae dogfennau adnabod ffug yn un o brif alluogwyr troseddau mewnfudo cyfundrefnol ac mae mudwyr anghyfreithlon cyfoethocach yn aml yn dod i mewn i'r Deyrnas Unedig drwy ddefnyddio dogfennau ffug y maen nhw wedi’u prynu.
Mae’r ROCUs yn gweithio ochr yn ochr â’r awdurdodau cenedlaethol a heddluoedd lleol i adnabod y rhai sy'n ceisio masnachu pobl i mewn i'r Deyrnas Unedig a sicrhau eu bod yn cael eu dal.