We use some essential cookies to make our website work. We’d like to set additional cookies so we can remember your preferences and understand how you use our site.
You can manage your preferences and cookie settings at any time by clicking on “Customise Cookies” below. For more information on how we use cookies, please see our Cookies notice.
Your cookie preferences have been saved. You can update your cookie settings at any time on the cookies page.
Your cookie preferences have been saved. You can update your cookie settings at any time on the cookies page.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Mae gan gyfarwyddiaeth troseddau economaidd rhwydwaith y ROCUs nifer o dimau arbenigol sy'n gweithredu ar ran yr heddluoedd i ymchwilio i droseddau ariannol a bachu asedau troseddwyr.
Mae eu timau'n cynnwys ystod o alluoedd sy'n ymchwilio i grwpiau troseddu cyfundrefnol sy’n ymwneud â throseddau ariannol, gan gynnwys ymchwiliadau arwyddocaol ar wyngalchu arian.
Mae unedau ymchwilio twyll yn ymchwilio i dwyll arwyddocaol, gyda llawer ohonynt yn aml yn lledaenu'n ehangach ledled y Deyrnas Unedig a thros y môr.
Mae timau neilltuol eraill yn ceisio defnyddio’r Ddeddf Enillion Troseddau (POCA) i sicrhau bod troseddwyr yn colli eu henillion anghyfreithlon, er mwyn sicrhau nad yw troseddu'n talu.
Enillion troseddau yw'r enw sy’n cael ei roi i arian neu asedau sy’n cael eu sicrhau gan droseddwyr yn ystod eu gweithgarwch troseddol. Mae pwerau o dan y Ddeddf Enillion Troseddau (POCA) yn caniatáu i ROCUs geisio atafaelu'r asedau hyn i sicrhau nad yw troseddu'n talu.
Mae Unedau Troseddau Economaidd y ROCUs yn cynnwys ymchwilwyr ariannol arbenigol sydd â nifer o ffyrdd i dargedu'r rhai y credir eu bod wedi elwa o weithgaredd troseddol.
Gorchmynion atal – yn cadw asedau rhywun sydd dan amheuaeth nes bod gorchymyn atafaelu wedi’i dalu'n llawn.
Gorchmynion atafaelu – yn ei gwneud yn ofynnol i ddiffynnydd a gafwyd yn euog dalu swm o arian ar unwaith neu o fewn cyfnod penodol o amser.
Adennill sifil – Mae enillion troseddau yn gallu cael eu hadennill mewn achos sifil yn erbyn eiddo y mae modd dangos ei fod wedi cael ei brynu drwy ddefnyddio arian anghyfreithlon.